Polisi Preifatrwydd

Cyflwyniad

Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae Gill German AS, yr Aelod Seneddol dros Ogledd Clwyd, yn casglu, defnyddio a diogelu eich data personol. Mae Gill German AS yn ymroddedig i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd mewn cydweithrediad â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Rheolydd Data

Gill German AS yw’r Rheolydd Data at ddibenion cyfraith ddiogelu data.

Sut yr Ydym yn Casglu eich Gwybodaeth

Gallem gasglu a phrosesu’r data personol a ganlyn amdanoch chi:

  • Gwybodaeth a ddarparwch drwy lenwi ffurflenni neu drwy gysylltu â ni (e.e. mewn e-bost, ar y cyfryngau cymdeithasol neu wyneb yn wyneb) yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i, eich enw, cyfeiriad, manylion cysylltu a manylion ymholi.
  • Cofnodion o ohebiaeth a chyfathrebiadau.
  • Gwybodaeth a ddarparwch pan fyddwch yn tanysgrifio i gylchlythyrau neu fathau eraill o gyfathrebiad.
  • Gwybodaeth o ffynonellau sydd ar gael yn gyhoeddus, os ydyn nhw’n berthnasol i’ch cyswllt neu broblem.

 

Sail Gyfreithiol ar Gyfer Prosesu

Rydym yn prosesu eich data personol ar y seiliau cyfreithiol a ganlyn:

  • Cydsyniad: Lle’r ydych wedi rhoi cydsyniad clir y cawn ni brosesu eich data personol at ddibenion penodol.
  • Tasg Gyhoeddus: Mae prosesu’n angenrheidiol er mwyn perfformio tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd gan y Rheolydd Data.
  • Goblygiad Cyfreithiol: Mae prosesu’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â goblygiad cyfreithiol.
  • Buddiannau Dilys: Mae prosesu’n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau dilys ni neu fuddiannau dilys trydydd parti, heblaw lle mae eich buddiannau neu’ch hawliau sylfaenol chi’n drech na’r buddiannau hynny. Dyma rai enghreifftiau o’r ffordd yr ydym yn dibynnu ar fuddiannau dilys:
    • Gwasanaeth Etholwyr: Efallai y byddwn yn prosesu eich data er mwyn deall eich pryderon ac i roi’r gwasanaeth gorau posibl i chi fel eich Aelod Seneddol. Gallai hyn gynnwys defnyddio eich manylion cysylltu i ymateb i ymholiadau, i roi gwybod i chi’n rheolaidd am newyddion a digwyddiadau perthnasol, neu i wneud gwaith achos ar eich rhan.
    • Ymgyrchu (os yw’n berthnasol): Efallai, gyda’ch cydsyniad chi, y byddwn yn rhannu eich manylion cysylltu â’r Blaid Lafur at ddibenion ymgyrchu sy’n alinio gyda’n gwerthoedd ni a’ch buddiannau chi. Gallwch bob amser optio allan o gyfathrebiad o’r fath.

 

Sut Rydym yn Defnyddio eich Gwybodaeth

Rydym yn defnyddio eich data personol at y dibenion a ganlyn:

  • I ymateb i’ch ymholiadau, cwynion neu broblemau.
  • I roi gwybod yn rheolaidd i chi am newyddion, ymgyrchoedd a digwyddiadau
  • I wneud gwaith achos ac eirioli ar eich rhan.
  • I ymgysylltu â chi yn eich rôl fel etholwr.
  • Lle rhoddir caniatâd, i rannu gwybodaeth gyda’r Blaid Lafur at ddibenion ymgyrchu.

 

Rhannu Eich Gwybodaeth

Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol gyda’r rhain:

  • Y Blaid Lafur, yn unol â’u polisi preifatrwydd, at ddibenion ymgyrchu lle’r ydych wedi rhoi eich cydsyniad.
  • Asiantaethau ac adrannau llywodraethol perthnasol, os oes angen gwneud hynny i ymdrin â’ch pryderon.
  • Darparwyr gwasanaeth trydydd parti sy’n gwneud swyddogaethau ar ein rhan, fel gwasanaethau cyfathrebu a TG, gan sicrhau eu bod yn cydsynio â’r cyfreithiau diogelu data.
  • Aelodau Seneddol neu swyddogion eraill os bydd eich achos yn galw am eu cyfranogaeth hwy.
  • Awdurdodau gorfodi’r gyfraith neu awdurdodau eraill os ydynt yn ofynnol gan gyfreithiau perthnasol.

 

Polisi Preifatrwydd y Blaid Lafur

I gael gwybod am y ffordd y mae’r Blaid Lafur yn casglu, dal a phrosesu gwybodaeth bersonol, gallwch gyfeirio at eu polisi preifatrwydd.

Cadw Data

Rydym yn cadw eich data personol dim ond cyhyd ag y bo raid i gyflawni’r dibenion y gwnaethom ei gasglu ar eu cyfer, yn cynnwys bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd. Mae’r Protocol Cadw Data i Aelodau Seneddol yn amlinellu cyfnodau cadw penodol sydd wedi eu seilio ar wahanol gategorïau o ddata.

Eich Hawliau

O dan y GDPR, mae gennych yr hawliau a ganlyn:

  • Yr Hawl Mynediad: Gallwch ofyn am gael mynediad at eich data personol.
  • Yr Hawl i Gywiro: Gallwch ofyn am gael cywiro eich data personol os yw’n anghyflawn neu’n anghywir.
  • Yr Hawl i Ddileu: Gallwch ofyn am gael dileu eich data personol, o dan amodau penodol.
  • Yr Hawl i Rwystro Prosesu: Gallwch ofyn am atal prosesu eich data personol, o dan amodau penodol.
  • Yr Hawl i Gludadwyedd Data: Gallwch ofyn am gael trosglwyddo eich data personol i sefydliad arall, neu atoch chi, o dan amodau penodol.
  • Yr Hawl i Wrthwynebu: Gallwch wrthwynebu prosesu eich data personol, o dan amodau penodol.

I arfer unrhyw rai o’r hawliau hyn, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.

Diogelwch Eich Data

Rydym yn cymryd camau diogelwch priodol i ddiogelu eich data personol rhag mynediad, defnydd, addasiad a dinistrio heb awdurdod. Rydym yn rhoi mesurau technegol a sefydliadol ar waith i sicrhau lefel o ddiogelwch sy’n briodol i’r risgiau.

Manylion Cysylltu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y polisi preifatrwydd hwn neu am ein harferion diogelu data, neu os byddwch eisiau arfer eich hawliau, cysylltwch â:

Gill German AS
Aelod Seneddol dros Ogledd Clwyd
E-bost: [email protected]
Cyfeiriad: Tŷ’r Cyffredin, Llundain, SW1A 0AA

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau diogelu data, gallwch hefyd gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO):

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk

Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd Hwn

Gallem ddiweddaru’r polisi preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd. Bydd unrhyw newidiadau wedi’u postio ar y dudalen hon, a lle bo’n briodol, rhoddir gwybod i chi mewn e-bost neu drwy ddulliau eraill. Edrychwch yn rheolaidd i weld a oes unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i’n polisi preifatrwydd.

Dyddiad y diweddariad diwethaf: 23 Awst 2024

 

Hawlfraint @2024  Swyddfa Gill German AS

Polisi Preifatrwydd

Sign up to my newsletter

Keep up to date with my work as your MP.

Your email address is never shared with any third parties.

You will only receive updates from Gill about her work in Clwyd North

Neidio i'r cynnwys